Cliciwch yma am broffil rol
Ydych chi'n angerddol am addysg uwch yng ngholegau a phrifysgolion Cymru?
Ydych chi eisiau helpu i sicrhau bod darparwyr yn cefnogi gwelliant parhaus yng nghanlyniadau myfyrwyr a gwella profiad dysgu myfyrwyr?
Ydych chi'n fyfyriwr neu'n swyddog sabothol mewn coleg neu brifysgol yn y DU ar hyn o bryd, sydd a phrofiad o gynrychioli buddiannau myfyrwyr, a all gefnogi a herio'n adeiladol uchelgeisiau sefydliadau unigol?
Os felly, efallai mai chi yw'r person rydyn ni'n chwilio amdano!
Trwy alwad agored rydym nawr yn ceisio ehangu ein carfan o fyfyrwyr adolygwyr QAA, i gymryd rhan mewn Adolygiad Gwella Ansawdd (QER). QER yw'r dull adolygu allanol dan arweiniad cyfoedion sy'n canolbwyntio ar welliant, ac yn cynorthwyo a sicrhau a gwella ansawdd y ddarpariaeth ar draws sector addysg uwch Cymru. Mae'n fecanwaith cyflawni allweddol o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru (QAF).
Er ein bod yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan golegau a phrifysgolion yng Nghymru.
Mae QAA yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yna siaradwr Cymraeg yn cael ei bennu i bob tim Adolygu Gwella Ansawdd lle bo'n berthnasol. Felly rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg i'n helpu i gyflawni'r ymrwymiad hwn.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno a sefydliad sydd a rol hanfodol yn sector addysg drydyddol y DU. Er ein bod yn chwilio am unigolion profiadol yn benodol ar gyfer QER, fel aelod o'n carfan o fyfyrwyr adolygwyr, gallwch gael eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau adolygu QAA eraill yn y DU a thramor.
Yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd
Rydym yn asiantaeth ansawdd sy'n arwain y byd gyda phrofiad digymar o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd. Rydym yn cynnig cymorth i brifysgolion a cholegau, ac yn gweithio gyda myfyrwyr a dysgwyr, llywodraethau, cyllidwyr a chyrff rheoleiddio, i dystiolaethu a gwella ansawdd rhagorol a safonau uchel yr addysg a ddarperir ganddynt.
Rydym yn gweithio tuag at well dealltwriaeth gyhoeddus - yn y wlad hon ac yn rhyngwladol - o sut mae ansawdd rhagorol yn cael ei ddangos mewn addysg uwch yn y DU, a sut mae sefydliadau ymreolaethol yn sicrhau ei ddarpariaeth ac yn mynd i'r afael a gwendidau. Mae ein gwaith yn diogelu gwerth cymwysterau i fyfyrwyr a dysgwyr, yn ogystal a diogelu a hyrwyddo enw da addysg uwch.
Ynglyn a'r rol
Fel Myfyriwr Adolygydd byddwch yn gweithio fel rhan o dim i gymhwyso eich gwybodaeth a'ch profiad ac ymgymryd a gweithgaredd adolygu gyda chefnogaeth Swyddog QAA. Mae hyn yn cynnwys defnyddio tystiolaeth a dogfennaeth gan brifysgolion a cholegau ac ymweld a'r sefydliadau hyn i wneud dyfarniad ar eu darpariaethau dysgu a chymorth.
Mae'r ymrwymiad amser yn dibynnu ar y gweithgareddau y dewiswch eu derbyn ac mae'n debygol o gynnwys gweithgaredd wrth ddesg dros gyfres o wythnosau neu fisoedd, gan arwain at un neu fwy o ymweliadau, yn dibynnu ar y dull adolygu, a'r sefydliad sy'n cael ei adolygu.
Mae rhagor o fanylion am y prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau, yn ogystal a'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen, i'w gweld ym mhroffil rol yr Adolygydd Myfyrwyr.
Cadarnheir y ffioedd ar gyfer pob gweithgaredd sicrhau ansawdd ar yr adeg y cewch eich gwahodd i gymryd rhan.
Bydd angen cwblhau hyfforddiant gorfodol cyffredinol (Iechyd a Diogelwch; GDPR; Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant; a Seiberddiogelwch), ac yn benodol ar gyfer y dull cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd sicrhau ansawdd.
Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am y rol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi ac yn hapus i gael sgwrs. Cysylltwch trwy e-bostio nations@qaa.ac.uk os gwelwch yn dda.
Sut i wneud cais
Byddem yn gwerthfawrogi ceisiadau cynnar, er mai hanner-nos ddydd Llun, 12fed Ionawr 2026 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
I wneud cais, crewch broffil ar ein porth recriwtio a chyflwynwch eich CV yn ogystal a chwblhau'r holl gwestiynau ar gyfer y cais. Dim ond ceisiadau wedi'u cwblhau fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rol.
Mae QAA yn cydnabod manteision cadarnhaol cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant. Ein nod yw bod yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas, ac i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, waeth beth fo'u hunaniaeth neu gefndir, a'u bod yn gallu rhoi o'u gorau. Rydym yn gosod gwerth ar y gwahaniaethau y mae amrywioldeb o ran cefndir, profiadau, safbwyntiau a sgiliau yn eu cynnig, ac yn annog ymgeiswyr sydd a chymwysterau addas i ymgeisio ac ymuno a ni.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hygyrchedd i bob ymgeisydd. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i gymryd rhan yn y broses recriwtio, cysylltwch a careers@qaa.ac.uk. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phawb i ddeall pa addasiadau sydd eu hangen i sicrhau proses deg a hygyrch.
Os nad ydych chi wedi clywed gan QAA o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon, yna ni fu eich cais yn llwyddiannus. Byddwch yn ymwybodol na allwn roi adborth ar geisiadau unigol.