Vale of Glamorgan Council

Glanhawr - Ysgol Pen Y Garth

Company
Location
Barry, Wales, United Kingdom
Posted At
5/29/2025
Advertise with us by contacting: [email protected]
Description
Amdanom ni

Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau

Uchelgeisiol: Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.

Agored: Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.

Gyda'n Gilydd: Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.

Balch: Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.

Ynglŷn â'r rôl

Manylion am gyflog: Gradd 1, SCP 2, £24,309 (Pro Rata), £12.60/ya

Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener.

Amser tymor 2 awr/wythnos (38 wythnos).

Egwyl 2 awr/wythnos (5 wythnos).

Prif Waith: Ysgol Pen Y Garth (Penarth)

Disgrifiad:

  • Cynorthwyo i roi gwasanaeth glanhau effeithiol i gleientiaid glanhau adeiladau
  • Cymryd lle glanhawyr eraill yn ystod cyfnodau o wyliau, salwch, diffyg staff ac absenoldebau eraill.
  • Cynorthwyo’r goruchwylydd / goruchwylydd safle yn achlysurol gyda hyfforddi staff glanhau.
  • Ymgymryd â’r holl agweddau ar dasgau glanhau fel; glanhau carpedi a glanhau stêm, glanhau yn unol â'r fanyleb safle, glanhau ar ôl gwaith adeiladu, glanhau yn ystod egwyliau a glanhau arall na nodir fel arfer yn y fanyleb safle.

Amdanat Ti

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu mewn disgyblaeth/amgylchedd arall cysylltiedig â glanhau.
  • Dealltwriaeth sylfaenol o'r amryw dasgau glanhau y mae angen eu gwneud i ddarparu Gwasanaeth Glanhau effeithlon ac effeithiol.
  • Sgiliau llafar da a gallu trafod ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
  • Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
  • Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
  • Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
  • Parod i weithio oriau afreolaidd
  • Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol

Gwybodaeth Ychwanegol

Angen Gwiriad DBS: Plant Uwch a Gwaharddedig

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Lynne Armstrong

Ffôn: 02920 673120

E-bost: [email protected]

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach
Advertise with us by contacting: [email protected]
logo
Hunt UK Visa Sponsors

Copyright © 2025

About us

How does it workContact UsBlog

Stay up to date

TwitterTelegram