NFU Mutual

Partner – Busnes Ffermio ac Yswiriant Masnachol

Company
Location
Ceredigion, Wales, United Kingdom
Posted At
5/27/2025
Advertise with us by contacting: [email protected]
Description

Cyfle am dwf ar gyfer arweinwyr masnachol

  • Rhedeg eich busnes yswiriant gweithredol eich hun gyda chyfraddau adnewyddu eithriadol
  • Ymunwch â busnes sydd â chyfleoedd twf gwych yn y dyfodol heb bod angen unrhyw fuddsoddiad cyfalaf
  • Eich egni a'ch uchelgais yw'r unig derfynau ar eich potensial i ennill cyflog yn y dyfodol
  • Ymunwch â thîm arwain a gefnogir gan bartneriaid busnes profiadol


Yn NFU Mutual, rydym wedi adeiladu ein henw da yn y sector amaethyddol, ac wedi llwyddo ynddo. Oddiwrth y llwyfan uchel ei barch hwn rydym bellach yn defnyddio ein treftadaeth a’n harbenigedd i warchod y sector amaethyddiaeth sy'n esblygu’n fythol. Yn ogystal â phortffolio ehangach o gleientiaid masnachol, corfforaethau gwerth miliynau o bunnoedd i BBaChau ac unig fasnachwyr.


Fel Partner yn asiantaeth NFU Mutual newydd uno Ceredigion & Llanymddyfri, byddwch yn ymuno a busnes aml-safle llwyddiannus a sefydledig gyda chyfleoedd twf gwych ym mhob maes o yswiriant. Yn uchel ei barch yn y gymuned leol, byddwch yn gweithio gyda phum partner profiadol a thîm gwybodus, i gefnogi ystod amrywiol o gwsmeriaid yn un o Asiantaethau mwyaf y rhanbarth.


Ar gyfer gofynion mwy cymhleth neu anarferol, bydd gennych gefnogaeth Tîm Broceriaeth Cyfanwerthu a Lleoli Allanol NFU Mutual, a fydd yn mynd allan i'r marchnadoedd yswiriant ehangach i greu atebion yswiriant pwrpasol ar gyfer cleientiaid newydd a phresennol.


Mae hwn yn gyfle hunangyflogedig sy'n dod gyda sylfaen cleientiaid ffyddlon gyda chyfraddau adnewyddu o dros 95%; rhagolygon twf busnes newydd sylweddol a pharhaus; ynghyd, y cynhaliaeth a cefnogaeth un o yswirwyr yr ymddiriedir ynddo fwyaf yn y DU.

Eich profiad a'ch dawn fasnachol

Gyda chefnogaeth Partneriaid profiadol, byddwch yn rhan o dîm arwain yr asiantaeth. Bydd gennych:


  • Brofiad o weithio yn y sector amaethyddol a diddordeb yn y gymuned ffermio leol.
  • Profiad o werthu ymgynghorol a datblygu busnes Newydd
  • Profiad o ysbrydoli timau, i yrru tuag at nod cyffredin
  • Dawn fasnachol gydag ymwybyddiaeth busnes lleol/rhanbarthol ar draws diwydiant
  • Ethos cwsmer sy'n gosod cleientiaid newydd a phresennol wrth galon y busnes
  • Dawn cyfathrebi rhagorol, ac yn ddymunol yn rhugl yn y Gymraeg


Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn cynrychioli llais amaethyddiaeth hyd at y lefelau uchaf, ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Am fwy na 110 mlynedd, mae'r NFU a NFU Mutual wedi mwynhau perthynas agos, gan gydweithio i ddarparu gwasanaeth dosbarth cyntaf i’r gymuned ffermio a’r gymuned wledig ehangach.


Fel Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth galon eich cymuned ffermio lleol. Byddwch yn hyrwyddo buddiannau ffermwyr lleol, yn trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, recriwtio a chadw aelodau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am bolisi amaethyddol. Gyda chefnogaeth NFU Cymru, bydd gennych fynediad at gyngor arbenigol a chymorth arbenigol ar bopeth o bolisi a chynyddu aelodaeth i farchnata a'r cyfryngau.


Wrth gyfuno eich dyletswyddau fel Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru gyda'ch gwaith fel Asiant NFU Mutual, mae’n rhoi’r cyfle i chi wneud y mwyaf o gyfleoedd newydd i’ch asiantaeth. Yn ogystal â chyflwyno'r hyn sydd gan yr NFU a'r NFU Mutual i'w gynnig i gynulleidfa ehangach. Mae'r rolau wedi'u cysylltu'n gynhenid.

Buddion a chefnogaeth

Fel Partner hunangyflogedig ac Asiant o NFU Mutual, mae eich enillion yn seiliedig ar berfformiad yr asiantaeth, gyda rhagolygon gwirioneddol ar gyfer twf. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle hunangyflogedig gwahanol. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o fentrau busnes sy’n galw am gyllid cychwynnol neu brynu i mewn i’r fenter. Nid yw ein model yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf ymlaen llaw.


Yn ogystal, fel Partner i asiantaeth NFU Mutual Ceredigion & Llanymddyfri y byddwch yn elwa o:


  • Llyfr adnewyddu sylweddol a pharod.
  • Potensial twf enillion yn y dyfodol diolch i ragolygon twf yr asiantaeth. Eich egni, uchelgais a gweledigaeth yw'r unig derfynau i'ch potensial enillion yn y dyfodol.
  • Ein hymrwymiad i'ch paratoi ar gyfer llwyddiant a'ch helpu ar hyd y ffordd hefyd. Er mai eich busnes chi i’w redeg ydyw, bydd gennych fynediad at lu o wasanaethau cymorth NFU Mutual gan gynnwys gwerthu, marchnata, cynllunio ariannol a llawer mwy.


Gwnewch gais nawr

Dyma gyfle ‘gorau o’r ddau fyd’, gan gydbwyso hyblygrwydd hunangyflogaeth â cefnogaeth tîm sydd eisoes yn llwyddiannus ac NFU Mutual, busnes yswiriant uchel ei barch.


Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle Asiant hwn, cyflwynwch eich cais mor gynnar ag y bo modd. Byddwch yn ymwybodol, efallai y byddwn yn cau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl.

Advertise with us by contacting: [email protected]
logo
Hunt UK Visa Sponsors

Copyright © 2025

About us

How does it workContact UsBlog

Stay up to date

TwitterTelegram