Disclaimer: Hunt UK Visa Sponsors aggregates job listings from publicly available sources, such as search engines, to assist with your job hunting. We do not claim affiliation with Citizens Advice. For the most up-to-date job details, please visit the official website by clicking "Apply Now."
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor am ddim ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, mewn cyfrinachedd. Trwy gyfrwng ein rhwydwaith genedlaethol o elusennau rydym ni’n rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl i ganfod eu ffordd ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu problem.
Hoffech chi weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth, bob diwrnod, i bobl o bob cefndir? Mae’r pobl sy’n troi at Gyngor ar Bopeth angen cymorth i oresgyn rhwystrau yn eu bywyd a medrwch chi fod yn allweddol yn sicrhau’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw yn y modd cyflymaf, rhwyddaf a mwyaf effeithiol.
Manylion amdanom ni
Mae CAB wedi bod yn gweithredu yn Sir Ddinbych ers 1949. Daeth Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i fodolaeth ym mis Medi 2005, yn dilyn uno’r gwasanaethau a oedd yn bodoli eisoes yng ngogledd a de’r sir.
Rydym ni’n wasanaeth prysur sy’n gweithredu ledled y sir gyda dwy brif swyddfa. Mae’r swyddfeydd yn y Rhyl a Dinbych ac mae ein staff wedi’u lleoli yno. Rydym ni hefyd yn gweithredu gwasanaethau brysbennu cyngor yn y safleoedd hyn ac mewn lleoliadau allgymorth a digwyddiadau ar draws y sir.
Y swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i’n cynorthwyo ni i fodloni’r galw cynyddol am ein gwasanaethau
cyngor a gwybodaeth yn y cyfnod heriol hwn. Mae profiad o waith achos Budd-daliadau Lles yn ofynnol.
Bydd eich gwaith achos yn cynnwys asesu amgylchiadau’r cleientiaid, cydgysylltu gyda nhw a thrydydd partïon, cynnal gwiriadau budd-daliadau, llenwi ffurflenni a herio penderfyniadau (ailystyriaethau gorfodol ac apeliadau).
Byddwch yn cael eich hyfforddi i ddefnyddio ein system a’n prosesau, gan sicrhau eich bod yn meddu ar yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo a ffynnu yn y swydd hon, gyda’r cyfle i wneud cynnydd yn ein sefydliad.
Mae manylion llawn am y swydd yn y pecyn swydd.
Mae’r swydd yn ddarostyngedig i wiriad datgelu a gwahardd manwl.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad roi cyflwyniad cryno ar ddechrau’r cyfweliad. Rhoir manylion llawn am hyn yn y llythyr gwahoddiad i gyfweliad.
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u llenwi i
[email protected] os gwelwch yn dda.