Swyddog Tai
Housing Officer
Cytundeb tymor penodedig Hyd at Awst 2027
Yn cwmpasu Gogledd Ddwyrain Cymru - yn cynnwys ardaloedd Dinbych, Rhuthun, Ewlo a Sandycroft, gyda theithio i Barc Busnes Llanelwy.
Tîm Gwasanaethau Preswylwyr - ClwydAlyn
Ydych chi’n cael eich gyrru gan wasanaeth cwsmeriaid gwych ac yn cael eich ysgogi gan y wybodaeth bod eich gwaith yn gwella bywydau’n wirioneddol? Os ydych chi’n Swyddog Tai profiadol ac yn rhywun sy’n ffynnu mewn rôl sydd â phwrpas, amrywiaeth, a’r cyfle i gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu, gallai hwn fod yn rôl berffaith i chi.
Ynglŷn â’r Rôl
Fel Swyddog Tai, byddwch chi’n chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaeth rheoli tai ymatebol sy’n canolbwyntio ar bobl. Does neb ddiwrnod yr un peth. Byddwch yn cefnogi preswylwyr ag ystod eang o anghenion, yn rheoli dyraniadau eiddo ac eiddo gwag, yn hyrwyddo cymdogaethau diogel a chynnal a chadw da, ac yn gweithio’n rhagweithiol i ddatrys materion fel anghydfodau cymdogion neu ôl-ddyledion.
Chi fydd y ddolen rhwng preswylwyr, partneriaid, a gwasanaethau — gan helpu pobl i gynnal eu tenantiaethau, cael mynediad at y cymorth cywir, a theimlo’n falch o’u cartref a’u hamgylchedd.
Beth Fyddwch Chi’n Ei Wneud
- Darparu cymorth cwsmeriaid o ansawdd uchel wyneb yn wyneb.
- Rheoli ystadau, cymdogaethau, a mannau cymunedol i safon uchel.
- Delio â phryderon preswylwyr, cwynion, a thorri telerau tenantiaeth yn broffesiynol ac yn ofalgar.
- Darparu cymorth tenantiaeth a lles, gan gynnwys casglu incwm a rheoli ôl-ddyledion.
- Cynnal cofnodion cywir ac wedi’u diweddaru ar Civica CX.
- Cynrychioli ClwydAlyn mewn lleoliadau allanol, gan gynnwys achos llys ac adolygiadau achos.
- Cydbwyso blaenoriaethau cystadleuol wrth aros yn drefnus a manwl.
Y Profiad yr Ydym yn Chwilio Amdano
Bydd gennych brofiad mewn o leiaf un o’r meysydd canlynol:
- Eiddo gwag a dyraniadau
- Adfer incwm / cefnogaeth ôl-ddyledion
- Rheoli ystâd neu gymdogaeth
- Delio â materion preswylwyr neu’r gymuned
Mae trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd yn hanfodol.
Pam Ymuno â ChlwydAlyn?
Mae hwn yn fwy na swydd — mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddwch yn rhan o sefydliad cefnogol, sy’n cael ei yrru gan werthoedd ac sy’n rhoi pobl yn gyntaf, boed staff neu breswylwyr. Disgwyliwch rôl sydd, ar adegau, yn heriol ond bob amser yn ystyrlon ac yn hynod werth chweil.
Rydym yn buddsoddi yn ein pobl, yn cynnig cyfleoedd datblygu, ac yn gweithio bob dydd i adeiladu cymunedau cryf lle gall preswylwyr fyw’n annibynnol a ffynnu.
Os ydych chi eisiau rôl gyda phwrpas, her, twf ac effaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ymgeisiwch heddiw a helpwch lunio dyfodol gwell o fewn ein cymunedau.
Dyddiad cau: 21ain o Ragfyr
Fixed term contract Until August 2027
Covering North East Wales, Covering areas from Denbigh, Ruthin, Ewloe and Sandycroft, with commuting to St Asaph Business Park.
Resident Services Team - ClwydAlyn
Are you driven by great customer service and motivated by knowing your work genuinely improves lives? If you’re an experienced Housing Officer and someone who thrives in a role with purpose, variety, and the chance to support people and communities to flourish, this could be the perfect fit.
About The Role
As a Housing Officer, you’ll play a key part in delivering a responsive, people-focused housing management service. No two days are the same. You’ll support residents with a wide range of needs, manage property allocations and voids, promote safe and well-maintained neighbourhoods, and work proactively to resolve issues such as neighbour disputes or arrears.
You’ll be the link between residents, partners, and services — helping people maintain their tenancies, access the right support, and feel proud of where they live.
What You’ll Be Doing
- Deliver high-quality, face-to-face customer support.
- Manage estates, neighbourhoods, and communal spaces to a high standard.
- Handle resident concerns, complaints, and tenancy breaches with professionalism and care.
- Provide tenancy and welfare support, including income collection and arrears management.
- Maintain accurate, up-to-date records through Civica CX.
- Represent ClwydAlyn in external settings including court proceedings and case reviews.
- Balance competing priorities while staying organised and detail-focused.
Experience We’re Looking For
You’ll have experience in at least one of the following areas:
- Voids & lettings allocations
- Income recovery / arrears support
- Estate or neighbourhood management
- Handling resident or community issues
A full driving licence and access to a vehicle is essential.
Why Join ClwydAlyn?
This is more than a job — it’s a chance to make a real difference. You’ll be part of a supportive, values-driven organisation that places people first, both staff and residents. Expect a role that’s challenging at times, but always meaningful and deeply rewarding.
We invest in our people, offer development opportunities, and work every day to build strong communities where residents can live independently and thrive.
If you want a role with purpose, challenge, growth, and impact, we’d love to hear from you.
Apply today and help shape better futures within our communities.
Closing date: 21st of December