Whisper

PRODUCER MOTORSPORT - CYMRU

Company
Location
Cardiff, Wales, United Kingdom
Posted At
7/1/2025
Advertise with us by contacting: [email protected]
Description

Mae Whisper yn gwahodd ceisiadau gan Gynhyrchwyr profiadol i helpu i arwain ein Tîm Cynhyrchu Fformiwla Un sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Cymru.


Mae Whisper yn gwmni cynhyrchu blaenllaw byd-eang, yn arbenigo mewn chwaraeon ac adloniant brand heb ei sgriptio.


Mae ein tîm amrywiol o dros 270 o aelodau staff yn gweithio mewn swyddfeydd ledled y DU a thu hwnt, yn cynhyrchu chwaraeon o’r lefel uchaf fel Formula One, UEFA a’r Paralympics, yn ogystal â chynnwys brand, rhaglenni dogfen amser brig a sioeau cwis adloniant ar gyfer llu o ddarlledwyr.


Yn 2023 enillodd Whisper BAFTA a chafodd ei enwebu ar gyfer EMMY Rhyngwladol.


Mae Sony Pictures Television yn un o gyd-berchnogion y cwmni ac mae wedi ennill gwobr Lle Darlledu Gorau i Weithio ar saith achlysur.


Fe fydd y rôl hon yn gweithio'n bennaf ar ein darllediadau Fformiwla Un, gan helpu i arwain tîm cynhyrchu i gyflwyno uchafbwyntiau'r rowndiau cymhwyso a’r rasys dros 23 penwythnos a darllediadau byw o Grand Prix Prydain.


Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddiddordeb brwd mewn chwaraeon modur, a gwybodaeth am sut mae penwythnosau rasio yn gweithio o safbwynt darlledu.


Mae angen profiad fel cynhyrchydd oriel rhaglenni byw, a phrofiad o weithio gyda thimau cyflwyno ar y sgrin i feithrin hunaniaeth a pherthynas.


Byddai gwybodaeth am lwyth gwaith cynhyrchu o bell yn fantais.


Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o gynllunio ymlaen llaw a chyflwyno chwaraeon teledu byw, a dealltwriaeth ddofn o sut mae angen trefnu timau cynhyrchu i gyflwyno rhaglenni drwy gydol tymor hir.


Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda chynhyrchydd gweithredol, uwch-gynhyrchydd, ac yn helpu i ddatblygu tîm iau newydd, gan gynnwys rheolwr cynhyrchu iau, cydlynydd cynhyrchu, cynhyrchydd cynorthwyol, peiriannydd gweithrediadau cyfryngau iau a golygydd i sicrhau bod gan ddarllediadau Fformiwla Un Whisper y gwerthoedd cynhyrchu uchaf posibl.


Mae Whisper yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, cymuned a phrofiad bywyd. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.


Prif gyfrifoldebau:


  • Gweithio mewn rôl arweinyddol i helpu i gynllunio darllediadau byw o Fformiwla Un drwy gydol y tymor
  • Gweithio gyda, a chynorthwyo datblygiad, tîm cymharol di-brofiad
  • Cynhyrchu darllediadau oriel ochr yn ochr â uwch-gynhyrchydd ar leoliad gan gynnwys cyffro cyn, a dadansoddi ar ôl, y ras
  • Gweithio ar leoliad gyda thalent, datblygu trefn y rhaglen a sgriptiau
  • Gweithio gyda thimau Fformiwla Un a chynnal perthnasoedd cryf â nhw
  • Datblygu a chyflwyno cysyniadau creadigol eraill
  • Gweithio yn y gwaith golygu i gynhyrchu VTs
  • Bod yn aelod cyfrifol o'r tîm, gyda gwerthfawrogiad o gynhyrchu'r sioe o'r dechrau i'r diwedd
  • Sicrhau bod yr holl gynnwys o safon o'r radd flaenaf, wedi'i ymchwilio'n drylwyr ac yn gywir yn ffeithiol
  • Gweithio'n effeithiol gydag adrannau, cleientiaid a phartneriaid eraill (mewnol ac allanol), gan gynnal perthnasoedd a chyfathrebu rhagorol Whisper
  • Sicrhau bod yr allbwn yn cydymffurfio â safonau golygyddol, technegol, dylunio a hygyrchedd Whisper, gan weithio bob amser yn unol â pholisi Iechyd a Diogelwch y cwmni.


Noder y gellir newid, ychwanegu at, neu ddileu cyfrifoldebau i adlewyrchu anghenion newidiol y cynhyrchiad neu'r sefydliad.


Dealltwriaeth, Sgiliau a Phrofiad:


  • Gwybodaeth eang ac angerdd dros chwaraeon modur
  • Profiad amlwg o weithio yn yr oriel yn cynhyrchu adroddiadau chwaraeon byw prysur, addysgiadol ac adloniadol
  • Dymunol: Profiad o arwain tîm cynhyrchu bach o gyflwyno rhaglenni drwy’r tymor
  • Profiad o ysgrifennu trefn y rhaglen a dealltwriaeth o'r gofyniad am gywirdeb a sylw i fanylion.
  • Y gallu i ysgrifennu sgriptiau clir a chryno
  • Profiad o gynhyrchu tîm cyflwyno ar y sgrin, a datblygu perthnasoedd ar draws tymor i greu'r rhaglenni gorau.
  • Y gallu i adnabod stori dda, dyfeisio a datblygu syniadau creadigol cryf
  • Dealltwriaeth o'r broses olygu a'r gallu i hyrwyddo safonau a rhoi adborth
  • Gwybodaeth gref am ganllawiau golygyddol a pholisïau cydymffurfio Whisper, neu barodrwydd i sefydlu hyn yn gyflym
  • Profiad gyda llwythi gwaith cymhleth, blaenoriaethu a chyflawni'n gyson o fewn terfynau amser, ymateb yn gadarnhaol i newidiadau a gwrthdaro
  • Sgiliau cyfathrebu, gwneud penderfyniadau a datrys problemau cryf
  • Lefel amlwg o greadigrwydd gyda'r gallu i ddod â dull newydd ffres i greu allbwn deniadol ac esblygol


Dyddiau gwaith:

Swydd 4:1 yw hon, 4 diwrnod yn y swyddfa, 1 diwrnod yn gweithio o gartref mewn wythnosau lle nad oes rasys.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar benwythnosau ac oriau i ateb anghenion y cynhyrchiad, yn ôl calendr Fformiwla Un a pharthau amser rasys, yn ogystal â diwrnodau mewn wythnosau rasys yng Nghanolfan Ddarlledu Caerdydd.

Rhoddir diwrnodau yn ôl am unrhyw ddiwrnodau a weithir dros wythnos pum diwrnod.

Mae Whisper yn cynnig yr opsiwn o oriau hyblyg yn amodol ar ofynion cynhyrchu.


Lleoliad:

Caerdydd


Dechrau/Gorffen:

Medi/Hydref 2025 Cytundeb llawn amser tan Rhagfyr 2026


Cyflog:

Yn ddibynnol ar brofiad


Dyddiad cau:

Gwener 11ydd Gorffennaf, 4pm BST


Sut i ymgeisio:

Anfonwch CV a nodyn eglurhaol yn dweud wrthym yn eich ffordd eich hun pam mai chi yw'r ymgeisydd cywir ar gyfer y rôl hon.

Advertise with us by contacting: [email protected]
logo
Hunt UK Visa Sponsors

Copyright © 2025

About us

How does it workContact UsBlog

Stay up to date

TwitterTelegram
PRODUCER MOTORSPORT - CYMRU | Whisper | Hunt UK Visa Sponsors