- A role with clear purpose and visible impact
- Monday to Friday working — no weekends
- Hybrid working available when required
- Supportive team environment
- Opportunity to build experience within maintenance planning and coordination
- Work that directly supports safe homes and positive customer experiences
If you’re interested in developing your skills and supporting an essential service behind the scenes, we’d love to hear from you.
Hysbyseb Fewnol - Cynlluniwr / Cydlynydd Cynnal a Chadw
Adran: Cynnal a Chadw
Cyflog: £26,714 y flwyddyn
Lleoliad: Parc Busnes Llanelwy
(gyda’r gallu i weithio gartref pan fo angen)
Oriau: 39 awr yr wythnos
Patrwm gweithio: 8.00yb - 4.30yp, dydd Llun i ddydd Gwener
Dim gwaith penwythnos
Am y rôl
Mae cyfle ar gael i unigolyn trefnus a chymhellol ymuno â’n Hadran Cynnal a Chadw o fewn y Tîm Ymatebol a Thai Gwag.
Mae’r rôl hon yn bodoli i helpu’r gwasanaeth Cynnal a Chadw i redeg yn esmwyth, yn effeithlon ac yn deg — gan sicrhau bod cartrefi’n ddiogel, bod atgyweiriadau’n cael eu cwblhau ar amser, a bod cwsmeriaid yn derbyn gwasanaeth dibynadwy o safon uchel.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynllunio, trefnu a chydlynu gwaith cynnal a chadw ar draws eiddo ClwydAlyn. Mae hyn yn cynnwys atgyweiriadau ymatebol, gwaith tai gwag a rhaglenni gwelliannau wedi’u cynllunio.
Gan weithio’n agos gyda rheolwyr, goruchwylwyr a thimau crefft, byddwch yn cefnogi amserlennu gwaith, monitro cynnydd, a helpu i gadw rhaglenni’n rhedeg yn effeithiol. Bydd eich cyfraniad yn helpu i leihau oedi, gwella cynhyrchiant a sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau.
Byddwch hefyd yn helpu i gynnal systemau clir a data cywir. Mae hyn yn cynnwys diweddaru rhaglenni, cynhyrchu adroddiadau ac adolygu gwybodaeth fel bod penderfyniadau’n gallu cael eu gwneud ar sail data cyfredol a dibynadwy.
Mae’r rôl hon yn cefnogi ymrwymiad ClwydAlyn i
Gydweithio i Ddileu Tlodi