Disclaimer: Hunt UK Visa Sponsors aggregates job listings from publicly available sources, such as search engines, to assist with your job hunting. We do not claim affiliation with Amgueddfa Cymru – Museum Wales. For the most up-to-date job details, please visit the official website by clicking "Apply Now."
Ymunwch â ni fel Ymddiriedolwr yn Amgueddfa Cymru
Dyddiad cau: 8 Mawrth 2026 am 12yb
Amgueddfa Cymru yw un o sefydliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol Cymru. Fel elusen genedlaethol sydd â saith amgueddfa ledled y wlad, rydyn ni’n credu bod ein hamgueddfeydd yn perthyn i bawb — ac y dylen nhw adlewyrchu holl amrywiaeth, hanes a dyfodol Cymru.
Rydyn ni wrthi’n chwilio am hyd at dri Ymddiriedolwr newydd i helpu i lunio’n cyfeiriad strategol a chefnogi’n gweddnewidiad wrth inni gyflawni Strategaeth 2030 a'n Cynllun Busnes Pum Mlynedd sydd ar y gweill. Dyma gyfle unigryw i helpu i ddylanwadu ar newid diwylliannol ar raddfa genedlaethol.
Y rhai rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw
Mae croeso i bobl o bob rhan o Gymru a phob cefndir, yn enwedig y rhai y mae eu lleisiau yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn arweinyddiaeth gyhoeddus, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl LHDTC +, defnyddwyr BSL, pobl o gefndir incwm is, ac unigolion o'r Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin.
Does angen profiad blaenorol fel aelod o fwrdd.
Mae eich profiad byw a'ch safbwynt yn werthfawr ac yn cael eu hannog.
Mae’r priodweddau hanfodol yn cynnwys:
Profiad dymunol:
Beth mae'r rôl yn ei olygu
Fel Ymddiriedolwr, byddwch chi’n helpu i osod cyfeiriad strategol, cefnogi a herio ein gwaith, hybu’r sefydliad, a chyfrannu at sector diwylliannol mwy cynhwysol.
Rydyn ni’n gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad i ymgeiswyr anabl, defnyddwyr BSL, ac ymgeiswyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol.
Gwnewch gais erbyn 8 Mawrth 2026: cliciwch ar y ddolen
I gael sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais, cewch ofyn am alwad fer gyda'n Cadeirydd, Kate Eden, drwy Board@museumwales.ac.uk.